OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1212 (Cy. 128)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a) Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999,
(b) Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,
(c) Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, a
(d) Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006,
er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru/Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales (“y Prif Arolygydd”) sicrhau bod arolygiadau’n cael eu cynnal o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014. Bydd y diwygiadau yn rhoi mwy o le i’r Prif Arolygydd amrywio’r dyddiad y caiff ysgol neu sefydliad addysg ei arolygu er mwyn gwneud arolygiadau yn llai rhagweladwy. Bydd hyn yn caniatáu i’r Prif Arolygydd arolygu’r ysgolion hynny a all fod yn achosi pryder yn fwy aml. Mewn cyferbyniad os nad oes achos pryder o’r fath caniateir i’r ysgol gael ei harolygu’n llai aml.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach—
(a) Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,
(b) Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, ac
(c) Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006,
er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r cynllun gweithredu ar ôl arolygiad gael ei lunio o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad y daw’r adroddiad arolygu i law’r awdurdod priodol ar gyfer yr ysgol (y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol), neu’r perchennog (yn ôl y digwydd).
Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgol roi o leiaf dair wythnos o rybudd am gyfarfod rhieni a gynhelir yn unol â’i dyletswydd ym mharagraff 6(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2005. Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r gofyniad bod rhaid rhoi rhybudd o leiaf dair wythnos ymlaen llaw.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1212 (Cy. 128)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014
Gwnaed